Y Dychymyg Ôl-Fodern: Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan
Dyma gyfrol sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor cyfoes Mihangel Morgan. Mae'n arbrofi â beirniadaeth greadigol er mwyn cyfleu cysyniadau ynghylch llenyddiaeth mewn modd sy'n ddealladwy ac yn ddarllenadwy ar gyfer cynulleidfa greadigol ac academaidd fel ei gilydd.